Siarad Siop efo Mari a Meilir
by Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Podlediad sgyrsiol, arobryn // Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Podlediad sgyrsiol, arobryn // Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Da ni bellach yng nhymor yr hwrdd sy'n golygu fod Mari a Meilir yn teimlo hyd yn oed yn fwy parod eu barn - am yrrwyr býs, ymddygiad mewn theatr a goleuadau nenfwd. Ond wrth gwrs, mae digon o amser i drafod testunau fwy hwyliog fel Y Llais, sengl newydd Aleighcia Scott, group chat Arweinwyr Amddiffyn Cenedlaethol yr Unol Daleithau a hair-line Meilir. Dewch i mewn i glywed mwy!
Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod newydd fod, da ni'n rhoi dipyn o sylw i fenywod y bennod yma - o Rebecca Goodwin i Lady Gaga i bennod arbennig Rownd a Rownd o gymeriadau benywaidd yn unig. Mae Y Llais yn cael ein sylw ni eto yr wythnos yma yn ogystal â celeb beefs enwog, Eurovision a'r gusan yna rhwng Danny a Maura... Dewch i mewn i wrando.
Rhoddwn glod, y mae'r gwanwyn a Siop Siarad wedi dod! Ar ôl deufis o hoe fach, mae hi mor braf ail-agor y Siop Siarad ac mae yna gymaint i'w drafod hefyd. O gyfres newydd Y Llais, Après Amour a Mynydd, Noson Drag Y Bala, Cân i Gymru, tymor yr awards ac eich cynigion chi wrth gwrs. Estynwch fasged neu droli a dewch i Siarad Siop.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gwsmeriaid annwyl y siop. Mae hi di bod yn flwyddyn anhygoel o drafod, sgwrsio, hel straeon a mwydro a da ni mor ddiolchgar i chi gyd am wrando. Peidiwch a phoeni - nid ffarwel yw hwn, dim ond nodyn o werthfawrogiad wrth gyflwyno pennod olaf y gyfres eleni i chi. Ond mae ganddom ni newyddion cyffrosu i'w rannu gyda chi - felly i mewn i chi i'r siop ar unwaith!