Siarad Siop efo Mari a Meilir
by Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Podlediad sgyrsiol arobryn // Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Podlediad sgyrsiol arobryn // Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Yn y bennog arbennig o hir yma, rydym yn trafod rhaglen newydd Welsh National Theatre, rhaglenni teledu poblogaidd yr wythnos a faint oed ydi Meilir go iawn? Heb sôn am y blwch cyfrinachau sy'n gor-lifo efo'ch ceisiadau. Mae'ch cyfrinach chi'n saff yn y Siop Siarad.
Yn y bennod hon, caiff y blwch ceisiadau di-enw ei agor am y tro cyntaf, gan ddatgelu cyfrinachau, tips a chyfaddefiadau cwsmeriaid y Siop Siarad. Hefyd, mae trafodaeth fywiog am sylwadau diweddar Chappell Roan am famau, sgwrs am fethiant eithriadol ail-ddychmygiad newydd Disney o Snow White ac wrth gwrs...FFEINAL Y LLAIS! Bydd eich basgedi yn llawn ar ôl y bennod yma.
Da ni bellach yng nhymor yr hwrdd sy'n golygu fod Mari a Meilir yn teimlo hyd yn oed yn fwy parod eu barn - am yrrwyr býs, ymddygiad mewn theatr a goleuadau nenfwd. Ond wrth gwrs, mae digon o amser i drafod testunau fwy hwyliog fel Y Llais, sengl newydd Aleighcia Scott, group chat Arweinwyr Amddiffyn Cenedlaethol yr Unol Daleithau a hair-line Meilir. Dewch i mewn i glywed mwy!
Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod newydd fod, da ni'n rhoi dipyn o sylw i fenywod y bennod yma - o Rebecca Goodwin i Lady Gaga i bennod arbennig Rownd a Rownd o gymeriadau benywaidd yn unig. Mae Y Llais yn cael ein sylw ni eto yr wythnos yma yn ogystal â celeb beefs enwog, Eurovision a'r gusan yna rhwng Danny a Maura... Dewch i mewn i wrando.