Yr Hen Iaith

Pennod 52 - ‘Cyfaill ac Anwylddyn’: Beibl Bach 1630

Listen on

Episode notes

Er mwyn deall datblygiad llenyddiaeth Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg, rhaid trafod y Beibl eto. Yn dilyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn 1588, cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig yn 1620. ‘Beiblau pulpud’ oedd y cyfrolau hyn, llyfrau mawr a ddefnyddid yn yr eglwys ond a oedd yn rhy ddrud i’r rhan fwyaf o’r Cymry eu prynu. Ond cyhoeddwyd un tra gwahanol yn 1630, y ‘Beibl Bach’, un a oedd dipyn yn llai o ran maint ac felly’n rhatach. Wrth drafod ei arwyddocâd yn y bennod hon, craffwn ar ragymadrodd y Beibl Bach, ysgrif hynod ddiddorol sy’n annog y darllenydd i adael i’r beibl hwn fyw yn tŷ ag ef ‘fel cyfaill’ ac ‘fel anwylddyn.’ O safbwynt hanes crefydd yng Nghymru, dyma garreg filltir a fyddai’n hybu Piwritaniaeth yn y pen-draw. Ac o safbwynt hanes llenyddiaeth Gymraeg, byddai’r cyhoeddiad hwn yn hybu llythrennedd yn sylweddol. ** ‘Friend and Dear Person’: The Little Bible of 1630 In order to understand to development of Welsh literature in the seventeenth century, we have to discuss the Bible again. Following the publication of William Morgan’s Bible in 1588, a revised version was published in 1620. These were ‘pulpit bibles’, big books used in the church which were too expensive for most Welsh people to buy. But a very different one was published in 1630, the Beibl Bach or ‘Little Bible’, one which was quite a bit smaller in size and thus cheaper. While discussing its significance in this episode, we examine the Beibl Bach’s introduction, an extremely intersting piece of writing which urges the reader to let this bible live in the house with him ‘like a friend’ and ‘like a dear person.’ From the point of view of Welsh religious history, this was a milestone which would encourage Puritanism eventually. And from the point of view of Welsh literary history, this publication would encourage literacy considerably. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - J. Gwynfor Jones, Crefydd a Chymdeithas [:] Astudiaethau ar Hanes y Ffydd Brotestannaidd yng Nghymru c.1559-1750 (2007), a phennod VII yn enwedig. - am ymdriniaeth ffuglennol â dylanwad y Beibl Bach, gw. y bennod ‘1630’ yn Jerry Hunter, Y Fro Dywyll (2014). - gw. hefyd yr Ysgrifau cydymaith sy’n cael eu cyhoeddi yn adran ‘Culture’ y papur arlein Nation.Cymru.