Yr Hen Iaith

Pennod 50 - Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair

Listen on

Episode notes

A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn. Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth. Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy! ** A Poet in Two Worlds: Richard Hughes of Cefnllanfair As we record our 50th episode, we celebrate the milestone by discussing one of the most interesting poets of the early modern period, Richard Hughes of Cefnllanfair in Llŷn. We note that he was one of several Welsh poets who spent a great deal of time in London in the age of Elizabeth I. Richard Hughes was a footman who served the queen herself, but in addition to spending time in the court in London he also visited his old home frequently, as his poetry demonstrates. Indeed, his work is wonderfully varied, including poetry in both free and strict metres and, as far as themes are concenred, including: courtly love poetry and poems which treat sex in an extremely bawdy manner; poems about life in London and ones about Pen Llŷn (including a lively englyn to the Bardsey Island boat); poems which pay tribute to individuals and ones which satirize other people. And, yes, discussing the poetry of Richard Hughes enabled Richard Wyn Jones to learn an old Welsh word for toilet – cachdy (shit-house)! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Jerry Hunter, ‘“Ond Mater Merch”: Cywydd Llatai Troseddol Tomos Prys’, Llên Cymru 46 (2023) - Nesta Lloyd (gol.), Ffwtman Hoff: Cerddi Richard Hughes Cefnllanfair (1998). gw. hefyd yr erthygl berthnasol a fydd yn ymddangos yn adran ‘Culture’ Nation.Cymru erbyn diwedd yr wythnos.