Datgloi: Straeon COVID o Gymru
Serennu ar TikTok a gwneud cynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, gydag Ellis Lloyd Jones
Episode notes
Digrifwr poblogaidd o Dreorci yw Ellis Lloyd Jones, sydd wedi cael miliynau o wylwyr ar ei sgetsys comedi ar TikTok, ac wedi ymddangos ar gyfres BBC Tri ‘Young, Welsh and Bossin’ it.’
Yn y bennod yma, bu Dot ac Ellis yn trafod y stori y tu ôl i’w lwyddiant aruthrol ar TikTok, dod i arfer â byw yn llygad y cyhoedd, ei waith diweddar fel llysgennad ar ymgyrch Diogelu Cymru, a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…