Datgloi: Straeon COVID o Gymru

Arwain Cymru drwy’r pandemig gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

Listen on

Episode notes

Croeso i bodlediad newydd sbon Diogelu Cymru, ‘Datgloi: Straeon COVID o Gymru.’ O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol, yn y gyfres yma bydd y cyflwynydd teledu a radio Dot Davies yn clywed gan amrywiaeth o bobl nodedig ledled Cymru wrth i ni nodi dwy flynedd ers y cyfnod clo cyntaf a myfyrio ar eu profiadau o’r pandemig.

Mae gwestai heddiw yn un arbennig. Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn gyfrifol am arwain Cymru drwy’r pandemig a llywio’r wlad drwy gyfnod digynsail.

Yn y bennod yma, bu Dot yn siarad gyda’r Prif Weinidog gan edrych y tu ôl i’r llen i weld sut llwyddodd Llywodraeth Cymru i reoli’r achosion o’r firws yn ôl yn 2020, manylion ei ‘ddiwrnod tywyllaf’, a’i falchder yn yr ymdeimlad o undod ledled y wlad yn y cyfnod heriol yma.

Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…