Datgloi: Straeon COVID o Gymru

Gwersi bywyd yn sgil COVID: chwalu rhwystrau a chreu ysbytai maes, gyda Dr Meinir Jones a Dr Liza Thomas-Emrus

Listen on

Episode notes

Mae Meinir Jones, Meddyg Teulu ac Arweinydd Gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Liza Thomas-Emrus, Meddyg Teulu ac Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Gwella Llesiant Bwrdd Iechyd Cwm Taf, yn ddwy gydweithwraig a chwaraeodd ran hollbwysig yn y gwaith o greu ysbytai maes yn ystod y pandemig – wrth iddyn nhw helpu i ddarparu gofal hanfodol i’r rhai mewn angen a thorri rhwystrau traddodiadol byrddau iechyd mewn cyfnod digynsail.

Yn y bennod yma, bu Dot yn siarad gyda nhw am yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau ar y rheng flaen yn ystod y cyfnod yma, a’r holl wersi gallwn ni i gyd eu dysgu o’r ddwy flynedd ddiwethaf.

Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…