Datgloi: Straeon COVID o Gymru
Llunio gyrfa annisgwyl yn 19 oed yn y cyfryngau, a hyn oll yng nghanol pandemig, gyda Mirain Iwerydd
Episode notes
Mae Mirain Iwerydd yn seren newydd yng Nghymru. Yn 19 oed, hi yw cyflwynydd rhaglen y Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2 ochr yn ochr â gwneud ei gradd prifysgol.
Yn y bennod yma, bu Dot yn sgwrsio gyda Mirain i ddysgu beth yw ei phrofiad hi fel person ifanc yn byd mewn pandemig byd-eang, ac i glywed sut arweiniodd ei phrosiect personol unigryw yn ystod y cyfnod clo at ei gyrfa newydd yn y cyfryngau.
Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…